Workshop / Gweithdy

Had a lovely time with some Year 5 pupils from Ysgol Gymraeg Nant Caerau yesterday, creating characters and stories together (there was lots of imagination in that room!)

Amser braf dros ben yn creu cymeriadau a straeon yn Hwb Trelai gyda rhai o ddisgyblion blwyddyn 5 Ysgol Gymraeg Nant Caerau ddoe.

Y Fedal Ryddiaith / The Prose Medal

Diolch i drefnwyr Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd am seremoni hyfryd wrth i mi gael fy ngwobrwyo â’r Fedal Ryddiaith nos Wener. Diolch hefyd i’r beirniad Gwennan Evans am ei sylwadau caredig, a llongyfarchiadau mawr i Alun Tobias (Y Gadair) ac Alaw Williams (Tlws yr Ifanc) ar eu camp hwytha.

Such a happy occasion on Friday as I was awarded The Prose Medal at Cardiff’s Annual Chairing Eisteddfod.

Workshops / Gweithdai

It was lovely to run some workshops for Ysgol Gymraeg Pwll Coch pupils recently. Many thanks to the staff at Canton Library for the warm welcome.

Braf iawn oedd cynnal gweithdai gyda rhai o ddisgbylion Ysgol Gymraeg Pwll Coch yr wythnos diwethaf. Diolch yn fawr i staff Llyfrgell Treganna am y croeso cynnes.

Clawr nofel newydd / Cover reveal

Dyma glawr fy nghyfrol newydd ‘Camau Bach’ (@y_lolfa ) fydd allan yn y Gwanwyn! Mae’r nofel yn dilyn cast o gymeriadau sy’n byw eu bywydau mewn tref fach ddienw, rhywle ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. 

Here’s a cover reveal for my new novel ‘Camau Bach’ (Little Steps), which traces the interweaving lives of the residents of a small Mid Wales market town over the course of a year of change.

‘Porth’ on Borrow Box / ‘Porth’ ar gael i wrando arni

So chuffed that my collection of intertwined stories, ‘Porth’, is now available on Borrow Box and on CD. A big shout-out to the actors, Elain Llwyd, Siân Teifi and Siôn Eifion for portraying many characters so effectively.

Wrth fy modd fod fy nghyfrol o straeon cysylltiedig, ‘Porth’ (Y Lolfa), wedi ei throi yn CD ac ar gael i wrando arni ar Borrow Box. Diolch i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru am gynhyrchu’r sain, ac i’r actorion dawnus Elain Llwyd, Siân Teifi a Siôn Eifion am lwyddo i bersonoli sawl rhan mor effeithiol.