Chuffed to bits to be awarded the Tir na n-Og children’s book prize with Huw for our picturebook, Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor!
Huw a finna wrth ein boddau fod ein llyfr Gair-a-Llun, Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor (Atebol), wedi dod yn fuddugol yng nghategori cynradd gwobrau Tir na n-Og eleni. Hyfryd oedd dathlu ym mharti’r Cyngor Llyfrau yn yr haul. Llongyfarchiadau hefyd i Alun Davies am ennill yn y categori hŷn ac i Manon Steffan Ros a Valériane Leblond am wobr(au) y bobl – ac i bawb gyrhaeddodd y rhestr fer. Dyma sgwrs gyda Huw a Ffion Dafis ar ei rhaglen ar BBC Radio Cymru am y gyfrol (tua 8 munud i mewn i’r cyfweliad). Eitem ar raglen Wedi 7 fan hyn (12 munud i mewn):



Awarded by Helgard Krause – Chief Executive of the Book Council of Wales.

