My new book, Bach a Mawr, for little ones is in the shops!

Llyfr bach hwyliog ydi Bach a Mawr fydd o gymorth, gobeithio, i gyfoethogi iaith plantos bach. Mae arddull y gyfrol yn debyg iawn i’r llyfrau yn fy nghyfres Byd Natur (Gwasg Carreg Gwalch), gyda byd natur yn ganolog o ran testun (anifeiliaid gwahanol sy’n cael eu cymharu yma).

O ran arddull weledol y llyfr, fel yn fy nghyfres Byd Natur, peintio strwythurau gwahanol a gludo yn y dull collage oedd fy nhechneg wrth i mi fynd ati i greu. Dwi wrth fy modd yn gweithio yn y modd yma gan ei fod yn ddull reit organig o weithio ac mae’n cynnig dipyn o hwyl a lliw, sy’n addas iawn wrth fynd ati i greu llyfrau i blant wrth gwrs. Mae’r cyfrifiadur yn gymorth i fireinio agweddau gwahanol yn y camau olaf cyn y cysodi terfynol a’r argraffu.