New Publication / Cyfrol Newydd

Excited to see Porth in the shops this week. My first publication for adults, a collection of interlinked stories around Cardiff. I enjoyed writing this book so much.

Cyffrous fod fy nghyfrol gynta’ i oedolion, Porth, newydd gael ei chyhoeddi gan wasg Y Lolfa. Casgliad o straeon dinesig sy’ ‘ma – ma’n gyfrol sy’n gorwedd rhwla rhwng nofel a chyfrol o straeon byrion. Wedi joio ‘sgwennu hon.

Book Chart / Siart Llyfrau Cymraeg i Blant

Chuffed to see Mira (Atebol) is in the top three in the current books chart again, keeping company with two other books that I’ve recently adapted: ‘Does Dim yn Gyflymach na’r Tsita’ (Rily) and ‘Yr Ardd Anweledig’ (Broga Books). Thanks also to the Welsh Libraries for the recent interview regarding my writing processes.

Hyfryd gweld ‘Mira a’r Trip Ysgol’ (Atebol) yn y siartiau a dwy gyfrol arall dwi wedi eu haddasu’n ddiweddar hefyd!

New cover / Clawr newydd

I enjoyed creating this layered and nostalgic cover for Atebol recently. Gwreiddio is a collection of short stories about rural life in Wales.

Braf tu hwnt oedd cael fy ngwadd gan gwmni Atebol i baratoi’r clawr ar gyfer eu cyfrol arfaethedig o straeon byrion gan amryw o awduron, Gwreiddio. Yn y siopau’n fuan!

Book of the Year Prize / Gwobrau Llyfr y Flwyddyn

Huw and I are so thrilled to have been awarded a Wales Book of the Year Prize (Children and Young People category) at the Tramshed, Cardiff, last night! Many thanks to the organisers and to the judges for their kind words.

Huw a finna wrth ein bodda i gael ein gwobrwyo yng nghategori Plant a Phobl Ifanc Gwobrau Llyfr y Flwyddyn, Llenyddiaeth Cymru, neithiwr! Am noson arbennig – ar ôl pedair mlynedd o fethu â chael seremoni, roedd y naws yn y Tramshed yn wirioneddol wefreiddiol. Diolch i dîm Llenyddiaeth Cymru am yr holl waith trefnu, i’r beirniaid eleni, Ceri Wyn Jones, Megan Angharad Hunter, Savanna Jones a Sioned William; Diolch i gwmni Atebol a’n golygydd Rachel Lloyd; I Ffion Dafis am y cyflwyno campus, i Siop lyfrau Griffin Books am y gwerthu llyfrau ac i’r gof Angharad Pearce Jones am dlws mor hardd. Diolch hefyd i’r ffotograffydd Betsan Evans o Celf Calon am y llun yma a llongyfarchiadau gwresog i’r enillwyr eraill ac i bawb oedd ar y rhestrau byrion eleni.