Huw and I are so thrilled to have been awarded a Wales Book of the Year Prize (Children and Young People category) at the Tramshed, Cardiff, last night! Many thanks to the organisers and to the judges for their kind words.

Huw a finna wrth ein bodda i gael ein gwobrwyo yng nghategori Plant a Phobl Ifanc Gwobrau Llyfr y Flwyddyn, Llenyddiaeth Cymru, neithiwr! Am noson arbennig – ar ôl pedair mlynedd o fethu â chael seremoni, roedd y naws yn y Tramshed yn wirioneddol wefreiddiol. Diolch i dîm Llenyddiaeth Cymru am yr holl waith trefnu, i’r beirniaid eleni, Ceri Wyn Jones, Megan Angharad Hunter, Savanna Jones a Sioned William; Diolch i gwmni Atebol a’n golygydd Rachel Lloyd; I Ffion Dafis am y cyflwyno campus, i Siop lyfrau Griffin Books am y gwerthu llyfrau ac i’r gof Angharad Pearce Jones am dlws mor hardd. Diolch hefyd i’r ffotograffydd Betsan Evans o Celf Calon am y llun yma a llongyfarchiadau gwresog i’r enillwyr eraill ac i bawb oedd ar y rhestrau byrion eleni.