• About Me / Bywgraffiad
  • CV
  • Gallery / Oriel
  • BOOKS / LLYFRAU
    • ABC BYD NATUR
    • DWI EISIAU BOD YN DDEINOSOR
    • NOS DA TANWEN A TWM
    • PAM?
    • MAE’R CYFAN I TI
    • NADOLIG YN Y CARTREF
    • TYMHORAU BYD NATUR
    • 123 BYD NATUR
    • LLIWIAU BYD NATUR
    • MIRA A’R DANT
    • MIRA A’R TRIP YSGOL
    • MIRA A’R GOEDEN
    • BACH A MAWR
  • Portfolio / Portffolio
  • Awards / Gwobrau

LUNED AARON – ILLUSTRATOR AND WRITER

LUNED AARON – ILLUSTRATOR AND WRITER

Author Archives: lunedaaron

New Book / Llyfr Newydd

03 Dydd Llun Gor 2023

Posted by lunedaaron in Uncategorized

≈ Gadael sylw

My new book, Bach a Mawr, for little ones is in the shops!

Llyfr bach hwyliog ydi Bach a Mawr fydd o gymorth, gobeithio, i gyfoethogi iaith plantos bach. Mae arddull y gyfrol yn debyg iawn i’r llyfrau yn fy nghyfres Byd Natur (Gwasg Carreg Gwalch), gyda byd natur yn ganolog o ran testun (anifeiliaid gwahanol sy’n cael eu cymharu yma).

O ran arddull weledol y llyfr, fel yn fy nghyfres Byd Natur, peintio strwythurau gwahanol a gludo yn y dull collage oedd fy nhechneg wrth i mi fynd ati i greu. Dwi wrth fy modd yn gweithio yn y modd yma gan ei fod yn ddull reit organig o weithio ac mae’n cynnig dipyn o hwyl a lliw, sy’n addas iawn wrth fynd ati i greu llyfrau i blant wrth gwrs. Mae’r cyfrifiadur yn gymorth i fireinio agweddau gwahanol yn y camau olaf cyn y cysodi terfynol a’r argraffu.

The books in my life / Y llyfrau yn fy mywyd

26 Dydd Llun Meh 2023

Posted by lunedaaron in Uncategorized

≈ Gadael sylw

Last week, I was invited by Golwg magazine to share some thought about some of my favourite books. It was lovely to reminisce … Here are some of the titles I mentioned: The Artist’s Way: A Spiritual Path to Higher Creativity by Julia Cameron, A First Book of Nature by Nicola Davies and Mark Hearld and Olive Kitteridge by Elizabeth Strout.

Diolch am y gwahoddiad wythnos dwytha gan gylchgrawn Golwg i rannu meddyliau am rai o fy hoff lyfrau. Braf oedd hel atgofion!

Tir na n-Og Prize

05 Dydd Llun Meh 2023

Posted by lunedaaron in Uncategorized

≈ Gadael sylw

Chuffed to bits to be awarded the Tir na n-Og children’s book prize with Huw for our picturebook, Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor!

Huw a finna wrth ein boddau fod ein llyfr Gair-a-Llun, Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor (Atebol), wedi dod yn fuddugol yng nghategori cynradd gwobrau Tir na n-Og eleni. Hyfryd oedd dathlu ym mharti’r Cyngor Llyfrau yn yr haul. Llongyfarchiadau hefyd i Alun Davies am ennill yn y categori hŷn ac i Manon Steffan Ros a Valériane Leblond am wobr(au) y bobl – ac i bawb gyrhaeddodd y rhestr fer. Dyma sgwrs gyda Huw a Ffion Dafis ar ei rhaglen ar BBC Radio Cymru am y gyfrol (tua 8 munud i mewn i’r cyfweliad). Eitem ar raglen Wedi 7 fan hyn (12 munud i mewn):

Awarded by Helgard Krause – Chief Executive of the Book Council of Wales.

Book of the Year 2023 shortlist / Gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2023

22 Dydd Llun Mai 2023

Posted by lunedaaron in Uncategorized

≈ Gadael sylw

Huw and I are chuffed to bits that our picture book, Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor has been selected by the Book of the Year judges this year! It’s a real privilege.

Huw a finna wrth ein boddau i gyrraedd rhestr fer gwobrau Llyfr y Flwyddyn eleni yn y categori Plant a Phobl ifanc. Wir yn fraint.

New Picturebook / Cyfrol Newydd

17 Dydd Llun Ebr 2023

Posted by lunedaaron in Uncategorized

≈ Gadael sylw

Enjoying the process of creating my latest picturebook at the moment. Bach a Mawr (Small and Large) is a comparison book, full of colour and fun for the little ones.

Mwynhau gweithio ar fy nghyfrol newydd i’r plant ’fenga i Wasg Carreg Gwalch ar hyn o bryd. Cyhoeddi’n o fuan …

Middle Grade Books / Cyfres ‘Mira’

31 Dydd Gwener Maw 2023

Posted by lunedaaron in Uncategorized

≈ Gadael sylw

Currently working on my second middle grade book in the ‘Mira’ series – Mira a’r Trip Ysgol. This time, Mira is going on an overnight school trip, and she’s full of worries! The book will be illustrated by the talented James Cottell. Looking forward to running some workshops based on the first book, Mira a’r Dant, including one of my sessions at the Cardiff Children’s Literature Festival this Spring. Mira a’r Dant was chosen by the Book Council of Wales to be the Book of the Month as it was launched in August 2022.

Gweithio ar hyn o bryd ar fy nilyniant i fy nofel gyntaf i blant yng nghyfres Mira (Atebol). Bydd Mira a’r Trip Ysgol yn y siopau y gwanwyn yma.

2023 Tir na n-Og Award shortlist

29 Dydd Mercher Maw 2023

Posted by lunedaaron in Uncategorized

≈ Gadael sylw

Thrilled that ‘Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor’ (Atebol) has reached the short list for the prestigious Tir na n-Og Award this year. Co-created with my husband and best friend, Huw Aaron.

Huw a finna wrth ein bodda fod hwn wedi cyrraedd y rhestr fer eleni! Braint go iawn.

Mae’r Cyfan i Ti / It’s All For You

16 Dydd Iau Chw 2023

Posted by lunedaaron in Uncategorized

≈ Gadael sylw

I enjoyed creating my latest picturebook, ‘Mae’r Cyfan i Ti’/ It’s All For You (Atebol). It reached the 2021 Tir na n-Og Award short list.

“As we follow the day from dawn until dusk, we are introduced to a variety of sensory experiences in this delightful book that celebrates the wonderful gifts of nature that are all around us.”

Braf oedd cydweithio gyda’r golygydd Rachel Lloyd o gwmni Atebol ar y gyfrol yma:

“Cyfrol annwyl a theimladwy sy’n ddathliad o roddion gwerthfawr byd natur. Gan ddilyn y diwrnod ar ei hyd, a thrwy ddefnyddio’r synhwyrau, cawn ein cyflwyno i’r amrywiaeth o brofiadau sydd ar gael i ni eu mwynhau gyda’n gilydd.”

Tir na n-Og Award / Gwobr Tir na n-Og

20 Dydd Mawrth Meh 2017

Posted by lunedaaron in Uncategorized

≈ Gadael sylw

Thrilled to have won the 2017 Tir na n-Og Award for my first book for children, ABC Byd Natur!

Hyfryd oedd cael ar ddeall fod fy llyfr cyntaf i blant bach, ABC Byd Natur, Gwasg Carreg Gwalch, wedi ennill Gwobr Tir Na-nOg yn y Categori Cynradd eleni. Mae’n gymaint o fraint ac yn hwb creadigol eithriadol. Llongyfarchiadau mawr i Manon Steffan Ros ar ennill am y trydydd tro gan ddod yn fuddugol yn y Categori Uwchradd am ei nofel Pluen, Gwasg Y Lolfa.

image

Book Launch / Lansiad

19 Dydd Llun Meh 2017

Posted by lunedaaron in Uncategorized

≈ Gadael sylw

Such a joy to launch Ennyd by the sea in Criccieth. This collaboration with my father, the poet John Emyr, means the world to me.

Diolch i Gwyneth Glyn am holi dad a finna ac am ganu yn ein lansiad o Ennyd yng Nghricieth, a diolch i Gwasg Carreg Gwalch am drefnu’r digwyddiad. Lle delfrydol i lansio’r llyfr sy’n llawn o atgofion glan-y-môr oedd ym mwyty Dylan’s ger y môr a’i donnau.

image

image
image

 

← Older posts
Newer posts →

Cofnodion Diweddar

  • Workshop / Gweithdy
  • Y Fedal Ryddiaith / The Prose Medal
  • Textures / Peintio
  • Workshops / Gweithdai
  • Clawr nofel newydd / Cover reveal

Archif

  • Chwefror 2026
  • Ionawr 2026
  • Ionawr 2025
  • Mehefin 2024
  • Mai 2024
  • Chwefror 2024
  • Ionawr 2024
  • Rhagfyr 2023
  • Tachwedd 2023
  • Hydref 2023
  • Awst 2023
  • Gorffennaf 2023
  • Mehefin 2023
  • Mai 2023
  • Ebrill 2023
  • Mawrth 2023
  • Chwefror 2023
  • Mehefin 2017
  • Mawrth 2017
  • Hydref 2016
  • Ionawr 2015
  • Hydref 2014
  • Gorffennaf 2014
  • Mehefin 2014
  • Mai 2013
  • Ebrill 2013
  • Mawrth 2013
  • Chwefror 2013
  • Tachwedd 2012
  • Awst 2012

Blogio ar WordPress.com.

  • Tanysgrifio Wedi Tanysgrifio
    • LUNED AARON - ILLUSTRATOR AND WRITER
    • Oes gennych chi gyfrif WordPress.com yn barod? Mewngofnodwch nawr.
    • LUNED AARON - ILLUSTRATOR AND WRITER
    • Tanysgrifio Wedi Tanysgrifio
    • Cofrestru
    • Mewngofnodi
    • Adrodd am y cynnwys hwn
    • View site in Reader
    • Rheoli tanysgrifiadau
    • Cau'r bar hwn
 

Wrthi'n Llwytho Sylwadau...