Quizmaster …./ Cwis feistres …!

A busy day yesterday celebrating World Book Day, running sessions in Ysgol Treganna and online (my first ever experience as a virtual Kahoot quizmaster!)

Diwrnod prysur ddoe yn dathu Dydd y Llyfr. Sesiynau yn Ysgol Treganna hefo Huw a chael croeso mawr yno, wedyn rhedeg rowndiau o Kahoot rhithiol hefo’n agos at dri chant o blant fel rhan o ddathliadau 50 mlynedd Gwobrau Tir na n-Og, Cyngor Llyfrau Cymru.

World Book Day / Dydd y Llyfr

Happy World Book Day! This was my favourite reading spot as a kid. Here I am devouring one of my favourite books from a fantastic Welsh language series called Cyfres y Corryn (The Spider series!) Came across one of my first written and illustrated  books in the loft last night, created when I was about five I think. I used to jot down the price of each one on the cover as well as dedicating them to my friends! Enjoyed running sessions at Ysgol Treganna today where 80 year 2 children have been encouraged by their teachers to create their own books. Love it.

Diwrnod y Llyfr hapus! Dwi’n cofio’r gadar ‘ma’n dda – fy hoff le i ddarllen ers talwm byd… Un o glasuron Cyfres y Corryn dwi’n ddarllen. Da! Ddes i ar draws un o’r llyfra’ cynta’ nes i neithiwr – pan o’n i tua pump oed dwi’n meddwl. O’n i’n rhoi pris ar glawr pob llyfr a chyflwyno nhw i ffrind bob tro! Hyfryd rhedeg gweithdai heddiw hefo plant sy’n cael eu hannog i sgwennu eu llyfra bach eu hun gan eu hathrawon yn Ysgol Treganna. Gwych!

Workshop / Gweithdy

Had a lovely time with some Year 5 pupils from Ysgol Gymraeg Nant Caerau yesterday, creating characters and stories together (there was lots of imagination in that room!)

Amser braf dros ben yn creu cymeriadau a straeon yn Hwb Trelai gyda rhai o ddisgyblion blwyddyn 5 Ysgol Gymraeg Nant Caerau ddoe.

The Prose Medal / Y Fedal Ryddiaith

Such a happy occasion on Friday as I was awarded The Prose Medal at Cardiff’s Annual Chairing Eisteddfod.

Diolch o galon i drefnwyr Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd am seremoni hyfryd wrth i mi gael fy ngwobrwyo â’r Fedal Ryddiaith nos Wener. Diolch hefyd i’r beirniad Gwennan Evans am ei sylwadau caredig, a llongyfarchiadau mawr i Alun Tobias (Y Gadair) ac Alaw Williams (Tlws yr Ifanc) ar eu camp hwytha.