New Book / Llyfr Newydd

My new book, Bach a Mawr, for little ones is in the shops!

Llyfr bach hwyliog ydi Bach a Mawr fydd o gymorth, gobeithio, i gyfoethogi iaith plantos bach. Mae arddull y gyfrol yn debyg iawn i’r llyfrau yn fy nghyfres Byd Natur (Gwasg Carreg Gwalch), gyda byd natur yn ganolog o ran testun (anifeiliaid gwahanol sy’n cael eu cymharu yma).

O ran arddull weledol y llyfr, fel yn fy nghyfres Byd Natur, peintio strwythurau gwahanol a gludo yn y dull collage oedd fy nhechneg wrth i mi fynd ati i greu. Dwi wrth fy modd yn gweithio yn y modd yma gan ei fod yn ddull reit organig o weithio ac mae’n cynnig dipyn o hwyl a lliw, sy’n addas iawn wrth fynd ati i greu llyfrau i blant wrth gwrs. Mae’r cyfrifiadur yn gymorth i fireinio agweddau gwahanol yn y camau olaf cyn y cysodi terfynol a’r argraffu.

The books in my life / Y llyfrau yn fy mywyd

Last week, I was invited by Golwg magazine to share some thought about some of my favourite books. It was lovely to reminisce … Here are some of the titles I mentioned: The Artist’s Way: A Spiritual Path to Higher Creativity by Julia Cameron, A First Book of Nature by Nicola Davies and Mark Hearld and Olive Kitteridge by Elizabeth Strout.

Diolch am y gwahoddiad wythnos dwytha gan gylchgrawn Golwg i rannu meddyliau am rai o fy hoff lyfrau. Braf oedd hel atgofion!

Tir na n-Og Prize

Chuffed to bits to be awarded the Tir na n-Og children’s book prize with Huw for our picturebook, Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor!

Huw a finna wrth ein boddau fod ein llyfr Gair-a-Llun, Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor (Atebol), wedi dod yn fuddugol yng nghategori cynradd gwobrau Tir na n-Og eleni. Hyfryd oedd dathlu ym mharti’r Cyngor Llyfrau yn yr haul. Llongyfarchiadau hefyd i Alun Davies am ennill yn y categori hŷn ac i Manon Steffan Ros a Valériane Leblond am wobr(au) y bobl – ac i bawb gyrhaeddodd y rhestr fer. Dyma sgwrs gyda Huw a Ffion Dafis ar ei rhaglen ar BBC Radio Cymru am y gyfrol (tua 8 munud i mewn i’r cyfweliad). Eitem ar raglen Wedi 7 fan hyn (12 munud i mewn):

Awarded by Helgard Krause – Chief Executive of the Book Council of Wales.

Middle Grade Books / Cyfres ‘Mira’

Currently working on my second middle grade book in the ‘Mira’ series – Mira a’r Trip Ysgol. This time, Mira is going on an overnight school trip, and she’s full of worries! The book will be illustrated by the talented James Cottell. Looking forward to running some workshops based on the first book, Mira a’r Dant, including one of my sessions at the Cardiff Children’s Literature Festival this Spring. Mira a’r Dant was chosen by the Book Council of Wales to be the Book of the Month as it was launched in August 2022.

Gweithio ar hyn o bryd ar fy nilyniant i fy nofel gyntaf i blant yng nghyfres Mira (Atebol). Bydd Mira a’r Trip Ysgol yn y siopau y gwanwyn yma.

Mae’r Cyfan i Ti / It’s All For You

I enjoyed creating my latest picturebook, ‘Mae’r Cyfan i Ti’/ It’s All For You (Atebol). It reached the 2021 Tir na n-Og Award short list.

“As we follow the day from dawn until dusk, we are introduced to a variety of sensory experiences in this delightful book that celebrates the wonderful gifts of nature that are all around us.”

Braf oedd cydweithio gyda’r golygydd Rachel Lloyd o gwmni Atebol ar y gyfrol yma:

“Cyfrol annwyl a theimladwy sy’n ddathliad o roddion gwerthfawr byd natur. Gan ddilyn y diwrnod ar ei hyd, a thrwy ddefnyddio’r synhwyrau, cawn ein cyflwyno i’r amrywiaeth o brofiadau sydd ar gael i ni eu mwynhau gyda’n gilydd.”

Tir na n-Og Award / Gwobr Tir na n-Og

Thrilled to have won the 2017 Tir na n-Og Award for my first book for children, ABC Byd Natur!

Hyfryd oedd cael ar ddeall fod fy llyfr cyntaf i blant bach, ABC Byd Natur, Gwasg Carreg Gwalch, wedi ennill Gwobr Tir Na-nOg yn y Categori Cynradd eleni. Mae’n gymaint o fraint ac yn hwb creadigol eithriadol. Llongyfarchiadau mawr i Manon Steffan Ros ar ennill am y trydydd tro gan ddod yn fuddugol yn y Categori Uwchradd am ei nofel Pluen, Gwasg Y Lolfa.

image

Book Launch / Lansiad

Such a joy to launch Ennyd by the sea in Criccieth. This collaboration with my father, the poet John Emyr, means the world to me.

Diolch i Gwyneth Glyn am holi dad a finna ac am ganu yn ein lansiad o Ennyd yng Nghricieth, a diolch i Gwasg Carreg Gwalch am drefnu’r digwyddiad. Lle delfrydol i lansio’r llyfr sy’n llawn o atgofion glan-y-môr oedd ym mwyty Dylan’s ger y môr a’i donnau.

image